Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Elusen gofrestredig yw Turn2us, a reolir gan Fwrdd Annibynnol o Ymddiriedolwyr - gwirfoddolwyr sydd ag ystod eang o sgiliau, profiadau a safbwyntiau sydd eu hangen i arwain ein datblygiad.

David Astor CBE DL Cadeirydd

Ffarmwr a chadeirydd presennol Camau ar gyfer Teuluoedd Carcharorion yw David Astor. Yn ogystal â hyn, David yw cyd-sefydlydd Jupiter Asset Management, cyd-sefydlydd a chyfarwyddwr Priory Investments, ymddiriedolwr Glyndebourne Productions Ltd ac un o Gymrodorion y Gymdeithas Gelfyddydau Frenhinol. Hefyd, bu’n ymgeisydd seneddol ar gyfer Plaid y Democratiaid Cymdeithasol.

Wedi derbyn ei CBE ym 1994, mae David Astor yn rheolwr a mentrwr o fri.


Richard Down Ymddiriedolwr

Mae Richard Down wedi dal swyddi rheoli uchel ar amryw brosiectau ers dechrau’r 1980au - yn y D.U. ac yn rhyngwladol. Mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Adran Masnach a Diwydiant. Hefyd, mae wedi gweithio fel uwch-reolwr gweithredol tair llywyddiaeth D.U. yr Undeb Ewropeaidd, yr Uwchgynadleddau G7 a G8, Uwchgynhadledd Technoleg G7 yr Undeb Ewropeaidd a chyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd ym 1992 a 1998.

Mae penodiadau ymgynghoriaeth Richard wedi cynnwys Vauxhall Motors, General Motors, MK Electri ac Eurotunnel. Mae’n un o gymrodorion y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig, yn ymgynghorydd strategol Towers Perrin a Sefydliad Arloesi a Gwella’r GIG.


Jeremy Nettle Ymddiriedolwr

Mae gan Jeremy Nettle 25 blynedd o brofiad o weithio ym maes gofal iechyd yn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol y D.U. a Sgandinafia - gan gynnwys 15 blynedd o brofiad o systemau technoleg gwybodaeth (TG) clinigol. Ar hyn y bryd, mae’n Gyfarwyddwr Ewropeaidd Corfforaeth Gofal Iechyd Oracle, Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop (EMEA), ac mae’n rhoi gwybodaeth glinigol arbenigol i dimau gofal iechyd ar draws y D.U. ac Ewrop. Mae’n gadeirydd y grŵp gofal iechyd Intellect, sy’n cynrychioli dros 260 o gyflenwyr TG yn sector gofal iechyd y D.U. Cyn hyn, gweithiodd fel Rheolwr Datblygu Busnes Lockheed Martin yn y D.U.

Etholwyd Jeremy fel aelod o Gyngor Dosbarth Salisbury am wyth blynedd ac fe wasanaethodd y gymuned fel 744fed Maer New Sarum. Jeremy yw cadeirydd presennol Apêl y Maer 2008-2009 ar gyfer Cancer Research UK ac mae wedi bod ynghlwm wrth brosiect Canolfan Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, a gychwynnodd yn Salisbury ac sydd bellach yn gweithredu ac yn bwydo teuluoedd mewn argyfwng mewn 20 tref a dinas arall yn y D.U.


Fred Payne Ymddiriedolwr

Mae Fred Payne wedi bod yn brif weithredwr Cronfa Les y Bancwyr ers pum mlynedd. Cafodd yrfa hir ac amrywiol gyda Lloyds TSB, yn bennaf yn Ninas Llundain, gan gynnwys rôlau fel cyfarwyddwr perthynas â chwsmeriaid ac uwch weithredwr gyda chyfrifoldeb am farchnata a datblygu cynnyrch sy ddim yn ariannol.

Ar hyn o bryd Fred ydyw Is-Gadeirydd Cymdeithas Swyddogion Elusennau, y corff cenedlaethol dros elusennau lles a Chadeirydd ymgyrch Lles Heddiw, gan ddwyn at ei gilydd 30 o elusennau lles er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u galluoedd. Yn ddiweddar mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygiad menter newydd arloesol mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol i gynnig gwasanaethau i deuluoedd sydd â phlentyn awtistig.

Daw Fred at Turn2us gyda phrofiad helaeth mewn datblygu strategaeth, rheoli newid a rheoli cynnyrch.


Jonathan Welfare Ymddiriedolwr

Jonathan Welfare yw Prif Weithredwr Elizabeth Finn Care, un o’r elusennau mwyaf blaenllaw yn y DU sy’n cynnig grant yn uniongyrchol a’i phwrpas penodol ydyw helpu pobol mewn angen ariannol, ac arweiniodd at sefydlu Turn2us.

Graddiodd o Goleg Emmanuel , Caergrawnt, ac ymhlith rôlau Jonathan yn y gorffennol mae rheolwr gyfarwyddwr Venture Link Investors, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Landmark a dirprwy prif weithredwr Cyngor South Yorkshire Metropolitan.