Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Ein Partneriaethau

Credwn na all un unigolyn na chymdeithas helpu y miliynau o bobol sydd mewn angen ariannol. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth y gallwn ddatblygu ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn cyrraedd pob un o’r rhieny allai elwa ohonynt.

Mae aelodau ein Grŵp Datblygu Strategol yn gynrychiolwyr cymdeithasau sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn eithrio ariannol, rhoi grantiau elusen a buddiannau lles. Maen nhw’n cynnig i ni gyngor ac yn gweithredu fel ein llysgenhadon.

Yr aelodau presennol yw:

Advice UK

Advice UK ydyw’r prif rwydwaith gefnogol o gymdeithasau sy’n rhoi cyngor yn y DU. Mae ei wasanaethau yn cynnwys cefnogaeth rheoli, yswiriant, hyfforddiant, cyngor ariannol a gwybodaeth.

Cymdeithas Swyddogion Elusen (ACO)

Mae ACO yn cynrychioli dros 200 o elusennau sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i unigolion mewn angen. Mae’n eu helpu i gydweithio i rannu a chydlynu eu gweithgareddau er mwyn cynyddu y nifer o bobol sydd mewn angen y gallant eu helpu.

Benevolence Today

Prosiect cydweithrediadol ydyw Benevolence Today o dros 30 o gymdeithasau sy’n darparu grantiau i bobol sydd mewn angen. Mae’n anelu at godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’u gwaith, annog mwy o unigolion sydd mewn angen i wneud cais am gefnogaeth oddi wrth aelodau Benevolence Today a chynyddu effeithiolrwydd wrth gyfeirio cwsmeriaid i ffynonellau cymorth..

Grwp Gweithredu Tlodi Plant (CPAG)

CPAG ydyw’r prif elusen sy’n ymgyrchu dros ddileu tlodi plant yn y DU a gwell telerau i deuluoedd a phlant sydd ag incwm isel. Mae’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’i achosion, ei faint, natur ac effaith tlodi, a strategaethau ar gyfer ei ddileu; arwain at newidiadau polisi postif i deuluoedd a phlant mewn tlodi; a galluogi y rheiny sydd yn gymwys am gynhaliaeth incwm i gael mynediad i’w hawliau yn llawn.

Citizens Advice

Mae Citizen’s Advice yn helpu pobol i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor am ddim o 3,300 o leoliadau gan ddefnyddio 20,000 o wirfoddolwyr. Mae ganddynt hefyd arweiniad cyngor cynhwysfawr ar-lein (www.adviceguide.org.uk).

Elizabeth Finn Care

Elizabeth Finn Care ydyw’r elusen fwyaf blaenllaw yn y DU sy’n rhoi grantiau yn uniongyrchol a’i phwrpas penodol ydyw helpu pobol mewn angen ariannol ac arweiniodd at sefydlu Turn2us. Am dros 100 o flynyddoedd mae wedi rhoi cefnogaeth ymarferol ac ariannol i bobol o gefndiroedd gwahanol sydd wedi syrthio i drafferthion ariannol oherwydd oedran, salwch corfforol neu feddyliol, chwalu teuluoedd, profedigaeth neu golli swydd.

Home-Start UK

Home-Start UK ydyw’r elusen fwyaf blaenllaw yn y DU sy’n rhoi cefnogaeth i deuluoedd gan gynnig cyfeillgarwch a help ymarferol i rieni sydd â phlant ifanc mewn cymunedau lleol trwy’r DU, a gyda’r Lluoedd Prydeinig yn yr Almaen a Cyprus.

Ymddiriedolaeth Cyngor Arian

Mae’r Ymddiriedolaeth Cyngor Arian yn anelu at leihau dyled anhydrin defnyddwyr y DU trwy weithio gyda’r llywodraeth, y sector breifat ac asiantaethau arian blaenllaw y DU er mwyn cynyddu argaeledd a maint y cyngor ariannol ynghyd â gwella ei effeithiolrwydd a’i effeithlonrwydd. Mae’n gyfrifol am redeg dwy linell gymorth arian annibynnol i bobol sydd â phroblemau dyled- Llinell Ddyled Genedlaethol a Llinell Ddyled Busnes..

Adeiladu Partneriaethau

Os ydych chi’n unigolyn neu gymdeithas o’r sector wirfoddol, gyhoeddus neu breifat, mae sawl ffordd sut y gallwch weithio gyda ni er mwyn dod yn rhan o’r ateb a gynigiwn.

Fe allech ein helpu ni trwy:

  • Ariannu datblygu gwasanaeth a chyflwyno
  • Ein helpu ni i hyrwyddo Turn2us a lledaenu ein deunyddiau
  • Cyfrannu arbenigedd, gwasanaethau neu gynnyrch

Os oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda ni, cysylltwch ag Ikram Dahman, Pennaeth Partneriaethau yn Ikram.Dahman@turn2us.org.uk am fwy o wybodaeth.