Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Staff Turn2us

Mae ein staff yn weithwyr proffesiynol a phrofiadol sy’n ymroddedig i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at yr arian sydd ar gael ar eu cyfer.

Alison Taylor Cyfarwyddwr, Turn2us

Ymunodd Alison â Turn2us yn Ebrill 2008 o Ganolfan y Llywodraeth, lle gwnaeth arwain rhaglen genedlaethol a oedd yn datblygu gwasanaethau cynnal i ymddiriedolwyr. Gyda chefndir ym maes polisïau cymdeithasol, dechreuodd ei gyrfa fel ymgynghorydd gyda’r Ganolfan Gynghori. Mae gan Alison dros 20 blynedd o brofiad sy’n cynnwys sefydlu gwasanaethau newydd, gwella gwasanaethau a newidiadau cyfundrefnol yn y llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector. Mae hithau hefyd yn ymddiriedolwr y Fountain Centre, sy’n cefnogi unigolion â chancr a’u teuluoedd.

Yn Turn2us, mae Alison yn arwain ar ddatblygu a darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys y wefan, peilot y llinell gymorth genedlaethol a gwasanaethau cynnal i gyfryngwyr ac elusennau.


Leona Smith Pennaeth Ymrwymiad

Mae gan Leona Smith dros 25 blynedd o brofiad yn gweithio yn y sector masnachol. Cychwynnodd ei gyrfa yn y diwydiant cyllid i Barclays Bank Plc, Credit Lyonnais ac fel dadansoddwr i Hill Samuel. Yna, symudodd i mewn i’r diwydiant iechyd a ffitrwydd, lle chwaraeodd rhan allweddol yn natblygiad strategaethau marchnata a brandio Holmes Place a chlybiau iechyd Esporta.

Yn Turn2us, mae Leona yn arwain ar ddatblygu brandiau, marchnata a’r strategaeth ymgysylltu.


Ikram Dahman Pennaeth Partneriaethau

Ymunodd Ikram Dahman â Turn2us ym Mehefin 2008 ac mae ganddo mwy na deng mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gwirfoddol, yn gweithio i Gymorth Cancr Macmillan a'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Gyda chefndir yn gweithio gyda phartneriaethau corfforaethol, arweiniodd Ikram ddatblygiad a darpariaeth strategol nifer o bartneriaethau hynod o lwyddiannus a oedd gwerth miliynau o bunnoedd gyda rhai o brif gwmnïau’r D.U.

Yn Turn2us, mae Ikram yn arwain ar ddiogelu buddsoddiadau ar draws y sectorau corfforaethol, gwirfoddol a chyhoeddus.


Sadie Constable Swyddog Marchnata

Gweithiodd Sadie Constable yn elusen yr Ymddiriedolaeth Cŵn am bum mlynedd, yn gweithio ar ystod eang o fentrau hyrwyddol a marchnata, gan gynnwys datblygu taflenni gwybodaeth a lansio sawl canolfan newydd.

Rôl Sadie yn Turn2us yw marchnata gwasanaethau Turn2us.


Bridget McCall Swyddog Cefnogi Cwsmeriaid a Gwybodaeth

Gweithiodd Bridget McCall i Gymdeithas Clefyd Parkinson am 17 blynedd, yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gwybodaeth i bobl sydd â’r clefyd hwn, eu teuluoedd a llawer o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd/gofal cymdeithasol. Ar ôl hynny, gweithiodd fel ysgrifennydd llawrydd ac mae’n awdur dau lyfr iechyd.

Mae Bridget yn gyfrifol am ysgrifennu, golygu a chomisiynu cynnwys y wefan ac yn ei thro, fe fydd ynghlwm wrth beilot y llinell gymorth genedlaethol.