Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Ein pwrpas a’n gwerthoedd

Clywn yr un hen stori bob dydd – 13.5 miliwn yn byw mewn tlodi yn y D.U., gan gynnwys 3.9 miliwn o blant – ac mae’r niferoedd yn cynyddu.

Mae’r rhesymau pam fod pobl yn profi caledi ariannol yn gymhleth.

Cyfnodau sy’n peri straen mewn bywyd, megis colled, diweithdra, chwalfa deuluol, iechyd gwael, anabledd a gofalu am rywun arall yw’r ffactorau cyffredinol arwyddocaol, yn enwedig os yw’r newidiadau hyn yn atal rhywun rhag gweithio.

Mae costau cynyddol o fyw ac effeithiau sefyllfa economaidd bresennol y D.U. hefyd wedi effeithio ar gyllid personol ac o ganlyniad, mae llawer o bobl yn ei gweld hi’n anodd dod â dau ben llinyn ynghyd.

Ond, dylid cofio un peth syml. Mae arian ar gael i helpu pobl - trwy fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth ariannol arall - ond mae cael mynediad atynt yn rhwystr sy’n drysu llawer o unigolion, yn enwedig y rheiny sydd â chyflog isel.

Wrth i’r pryder hwn ynghylch costau byw gynyddu, ynghyd â thlodi ymhlith plant a’r ‘credit crunch’, mae’r angen am wasanaeth i helpu pobl i dderbyn yr arian sydd wir ei angen arnynt yn fwy perthnasol a phwysig nag erioed. Dyma’r hyn y mae Turn2us yn ei ddarparu.

Mae chwe gwerth allweddol yn tanategu’n gwaith. Rydym yn :

Frwd: am leddfu problemau ariannol yn y D.U.

Cydweithio: bwriadwn weithio gydag ystod o bartneriaid o’r trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat i gwrdd ag anghenion pobl sy’n byw mewn tlodi.

Gynhwysol: bwriadwn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i’r bobl hynny sydd wir eu hangen.

Effeithiol: bwriadwn ddarparu adnoddau a gwasanaethau o safon.

Ymatebol: bwriadwn wrando ar anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau a’n deiliaid diddordeb ac ymateb i’r anghenion hynny trwy gyfrwng byrddau ymgynghori ac ymchwil.

Ddiduedd: bwriadwn ddarparu gwasanaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth.

Facebook Icon Twitter Icon YouTube Icon