Log in / Register
You are here:
Telir budd-daliadau lles er mwyn sicrhau safon ofynnol o fyw a ni ddylai unrhyw berson fyw o dan y safon honno. Gallant eich helpu os:
Ceir dau fath o fudd-daliadau:
Mae ein gwybodaeth yn rhoi manylion cryno am yr holl brif fudd-daliadau, rhai sy’n seiliedig ar brawf modd a’r rhai heb brawf modd. Rydym yn esbonio pwy sy’n medru hawlio pa fudd-dal a sut i wneud cais amdano.
Gweinyddir gwahanol fudd-daliadau gan wahanol sefydliadau.
Mae’r system fudd-daliadau yn hynod o gymhleth ac nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’u hawliau. Amcangyfrifir na chaiff biliynau o bunnoedd o fudd-daliadau eu hawlio bob blwyddyn. Gall hyd yn oed y symiau lleiaf oll o arian wneud gwahaniaeth yn eich bywyd. Cofiwch os ydych yn gymwys i dderbyn budd-daliadau, gellir ôl-ddyddio eich hawl.
Mae ceisio darganfod os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau yn gallu bod yn waith dryslyd iawn. Mae dolen Gwirio budd-daliadau Turn2us yn gallu eich helpu i gyfrifo eich hawliau.
Ceir mwy o wybodaeth am bob budd-dal ar wefan y llywodraeth https://www.gov.uk/ gan gynnwys enw’r sefydliad sy’n gyfrifol am bob budd-dal a ble gellir cael mwy o gyngor.
Mae gwybodaeth am fudd-daliadau ar gael trwy gyfrwng sawl iaith a gwahanol ffurf, er enghraifft, mewn print bras neu Braille. Yn ogystal â hyn, os oes angen cymorth arnoch i siarad â rhywun yn un o adrannau’r llywodraeth neu’ch cyngor lleol, dylent fod yn medru darparu cyfieithydd. Bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r swyddfa budd-daliadau i wybod mwy am hyn.
Visit the Elizabeth Finn Care website