Log in / Register
You are here:
Mae gennych yr hawl i ddisgwyl safon resymol o wasanaeth gan y bobl sy’n ymdrin â’ch cais am fudd-dal. Gall hyn gynnwys ateb terfynau amser ar gyfer ymdrin â cheisiadau a darparu cyfleusterau cyfieithu. Bydd gan y rhan fwyaf o’r swyddfeydd sy’n ymdrin â budd-daliadau, gan gynnwys eich cyngor lleol, siarter neu ddatganiad safon gwasanaethau sy’n esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl. Gallwch gael gafael ar hwn yn eu swyddfeydd neu ar eu gwefannau.
Gallwch wneud cwyn, er enghraifft:
Gallwch wneud cwyn p’un ai eich bod hawlio budd-daliadau neu beidio. Fodd bynnag, os ydych wedi ymgeisio am fudd-dal ac rydych chi o’r farn bod y penderfyniad yn anghywir, ni allwch newid y penderfyniad hwn wrth gwyno. Bydd angen i chi herio’r penderfyniad (gweler uchod).
Os wnewch gwyn, gallai’r canlyniadau fod fel y ganlyn:
• ymddiheuriad am yr hyn sydd wedi digwydd • esboniad am sut ddigwyddodd y broblem • addewid y byddai’r broblem yn cael ei datrys, os yw hyn yn bosibl • newid y weithdrefn - bydd hyn yn cynorthwyo pobl eraill yn y dyfodol, a gallai fod o gymorth i chi os fydd angen i chi ddefnyddio’r swyddfa eto • iawndal ariannol, dim ond mewn amgylchiadau arbennig.
Dylech anfon eich cwyn at y swyddfa sy’n gyfrifol am achosi’r broblem. Gallai hyn fod y swyddfa a brosesodd eich cais neu swyddfa arall lle derbynioch gyngor. Gallech anfon eich cwyn at un o’r swyddfeydd canlynol:
Efallai, gallwch wneud cwyn anffurfiol wrth siarad â rheolwr yn y swyddfa leol berthnasol, neu ag aelod arall o staff. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, efallai bydd angen i chi gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig. Sicrhewch eich bod yn cadw copi o bopeth ysgrifenedig.
Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau weithdrefn gwyno fewnol a ddylai fod ar gael drwy wneud cais amdani. Bydd fel arfer rheolwr gwasanaethau cwsmeriaid neu rywun tebyg yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cwynion. Yna, cyflawnir camau ffurfiol pellach er mwyn ymdrin â’r cwyn.
Visit the Elizabeth Finn Care website