Log in / Register
You are here:
Fe all fod yn anodd iawn i ddarganfod p’un ai eich bod yn gymwys i dderbyn budd-dal penodol neu beidio. Gallwch gael cymorth o’r mannau canlynol:
Telir y mwyafrif o fudd-daliadau yn uniongyrchol i’ch cyfrif swyddfa bost, banc neu gymdeithas adeiladu.
Os byddech yn ei chael hi’n anodd i agor neu reoli cyfrif, gallwch dderbyn siec (a ellir ei newid am arian mewn swyddfa bost) yn lle. Os ydych yn ddigartref, yn sâl, neu fod gennych anabledd, efallai bydd angen talu eich budd-daliadau drwy siec. Darperir y system hon i bobl sy’n cael anawsterau difrifol wrth ddefnyddio cerdyn, cofio rhif PIN neu ddefnyddio peiriant arian neu lyfr siec. Gellir hefyd ei ddefnyddio os oes gennych sawl wahanol ofalwr sy’n casglu’r arian ar eich rhan. Os oes angen i chi dderbyn eich budd-daliadau drwy siec, dylech gysylltu â’r swyddfa budd-daliadau.
Os yw cael arian allan o’ch cyfrif yn peri problemau, er enghraifft, oherwydd eich salwch neu anabledd, gallwch enwebu rhywun i gael mynediad i’ch cyfrif ar eich rhan.
Os oes gennych gyfrif swyddfa bost, cysylltwch â’ch swyddfa budd-daliadau lleol i wybod mwy am enwebu rhywun arall i gasglu’r arian ar eich rhan. Pan gaiff eich cais ei gwblhau a’i brosesu, bydd eich cynorthwyydd yn derbyn cerdyn a Rhif Adnabod Personol (PIN) a gellir defnyddio hwn mewn unrhyw swyddfa bost er mwyn codi arian o’ch cyfrif ar eich rhan.
Hyd yn oed os nad oes gennych gyfrif yn y swyddfa bost, gallech ganiatáu rhywun arall i gael mynediad i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Gofynnwch i’ch banc neu gymdeithas adeiladu am sut i drefnu hyn - byddwch siŵr o fod yn gorfod llofnodi ffurflen er mwyn caniatau hyn.
Visit the Elizabeth Finn Care website