Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Beth i’w wneud os yw eich cais chi am fudd-dal yn cael ei wrthod, neu os ydych yn anhapus â’r penderfyniad ynghylch budd-daliadau.

Perthnasol i: Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os nad ydych chi’n hapus am benderfyniad ynghylch eich budd-dal, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd. Gallwch wneud y canlynol:

  • Ceisio dod o hyd i ragor o wybodaeth. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am benderfyniadau ynghylch budd-daliadau drwy lythyr. Unwaith y byddwch yn derbyn hwn, gallwn ofyn i’r swyddfa budd-daliadau am esboniad dros y ffôn, neu drwy ymweld â’r swyddfa. Bydd y llythyr yn dweud wrthych am yr hyn y gallwch ei wneud. Os ydych am i rywun esbonio cynnwys y llythyr i chi, gallwch gysylltu â’r swyddfa a ddanfonodd y llythyr.    
  • Gofyn am ailystyried y penderfyniad. Efallai bydd y penderfyniad yn cael ei newid o ganlyniad. Ar gyfer budd-daliadau, mae gennych fis o ddyddiad derbyn y llythyr penderfyniad, i ofyn i’r swyddfa ei ailystyried. Ar gyfer credydau treth,  gallwch ofyn i’r swyddfa i ystyried y penderfyniad eto ar unrhyw adeg yn ystod eich dyfarniad, neu os ydynt wedi gwneud camgymeriad, o fewn pum mlynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth dan sylw. 
  • Apelio  yn erbyn y penderfyniad, naill ai yn syth neu ar ôl i’r penderfyniad gael ei ail-ystyried. Mae apêl yn golygu bod eich budd-dal neu benderfyniad ar dreth yn cael ei drafod gan dribiwnlys annibynnol - mae’r aelodau sy’n gwneud y penderfyniad yn gwbl ar wahân i’r swyddfa sy’n gwneud y penderfyniadau. Os oes gennych yr hawl i apelio, byddant yn dweud hyn wrthych yn eich llythyr penderfyniad.

Mae gennych fis o ddyddiad y penderfyniad i gyflwyno apêl ar benderfyniad  ar fudd-dal a 30 niwrnod i gyflwyno apêl ar benderfyniad ynghylch credyd treth. Mewn rhai achosion, bydd apêl hwyr yn cael ei dderbyn. Efallai bydd angen help arbenigol arnoch er mwyn cyflwyno apêl.

Facebook Icon Twitter Icon YouTube Icon