Log in / Register
You are here:
Er mwyn hawlio budd-dal, fel arfer bydd angen i chi lenwi ffurflen. Mae gan bob budd-dal ffurflen ei hun. Yn dibynnu ar y math o fudd-dal, gallwch:
Mewn rhai achosion, efallai gallwch hawlio ar-lein neu dros y ffôn.
Rydym yn esbonio sut a ble i hawlio bob budd-dal ynghyd â darparu ffurflenni hawlio. Sicrhewch eich bod yn gwneud copi o’r ffurflen ar ôl i chi ei chwblhau cyn ei dychwelyd.
Gan amlaf, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth i gefnogi’ch hawl, er enghraifft, bydd angen i chi ddarparu rhif yswiriant gwladol a phrawf adnabod yn ogystal â thystiolaeth o incwm a chynilion. Os oes angen i chi anfon dogfennau gwreiddiol, sicrhewch eich bod yn cadw copïau a’u danfon wedi’u cofnodi er mwyn sicrhau eu diogelwch.
Gallai’r ffurflenni ymddangos yn rhai hir a chymhleth. Fel arfer, yr opsiwn orau fyddai ceisio cael cymorth gan ymgynghorydd neu weithiwr cynnal. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os oes gennych anabledd, gallwch ofyn i’r swyddog perthnasol am gymorth, er enghraifft, i ddarparu cyfieithydd.
Visit the Elizabeth Finn Care website