Log in / Register
You are here:
Yn ogystal ag unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi trwy fudd-daliadau lles, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael grant gan elusen sy’n rhoi grantiau.
Mae grant yn swm o arian y mae elusen sy’n rhoi grantiau yn ei rhoi i bobl sydd mewn angen ac sy’n gymwys i gael help ganddynt. Mae’n cael ei rhoi fel rhodd neu ddyfarniad, ac felly nid oes angen ei dalu yn ôl.
Mae grant yn medru bod yn swm rheolaidd (weithiau, gelwir hyn yn grant parhaus) a roddir i’ch helpu chi, os oes gennych anghenion ariannol, i dalu rhai o’ch biliau ac i roi hwb i incwm isel. Efallai hefyd ei fod yn swm o arian a roddir unwaith yn unig (weithiau, gelwir hyn yn grant penodol neu’n grant un taliad) i dalu am eitem benodol, fel darn o offer anabledd neu nwyddau gwyn, fel oergell neu beiriant golchi, nad ydych yn medru ymdopi hebddynt. Mae rhai elusennau sy’n rhoi grantiau hefyd yn rhoi grantiau addysgol i’ch helpu i dalu rhai o gostau’r cyrsiau yr ydych yn eu cymryd i wella’ch siawns o gael swydd neu ar gyfer datblygiad personol.
Mae yna filoedd o elusennau sy’n rhoi grantiau i bobl sy’n bodloni eu rheolau cymhwyso. Yn y rhan fwyaf o achosion, maen nhw wedi cael eu sefydlu i helpu pobl sydd ag anghenion ariannol ac sydd â rhywbeth yn gyffredin, er enghraifft:
Mae llawer o’r elusennau sy’n rhoi grantiau hefyd yn helpu dibynyddion y bobl y sefydlwyd eu cronfa i’w helpu – e.e. eu partneriaid, cyn-bartneriaid neu blant.
Fe fydd rhai’n ‘agored i bawb’. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu mai’r unig gymhwyster y mae’n rhaid i chi ei gael cyn i chi allu gofyn am help yw eich bod ag anghenion ariannol.
Mae nifer o’r elusennau sy’n rhoi grantiau yn helpu pobl sy’n gweithio mewn mathau penodol o swyddi neu ddiwydiannau, neu sydd wedi gweithio ynddynt yn y gorffennol. Fe fydd gan bob elusen ei rheolau ei hun ynghylch yr amser y mae’n rhaid i chi fod wedi ei dreulio mewn swydd neu ddiwydiant cyn i chi allu cael help.
Visit the Elizabeth Finn Care website