Log in / Register
You are here:
Os fyddwch chi angen unrhyw help tra’n llenwi’r ffurflenni, darllenwch unrhyw nodiadau canllaw y mae’r elusen wedi eu rhoi i chi. Fel arfer, mae’r rhain yn rhoi manylion yr wybodaeth sydd angen i chi ei chynnwys neu gyfeirio ati, fel mantolenni banc. Mae hefyd yn werth holi’r elusennau yr ydych yn ceisio am help ganddynt os ydyn nhw’n medru rhoi unrhyw gymorth i chi, fel rhywun i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os fyddwch chi angen help i chwilio am grantiau, mae ein llinell gymorth gyfrinachol, rad ac am ddim - 0808 802 2000 – yn medru rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Efallai y bydd unrhyw gynghorwyr, gweithwyr cymorth neu weithwyr iechyd/gofal cymdeithasol proffesiynol yr ydych mewn cysylltiad â nhw hefyd yn medru eich helpu.
Mae canolwyr hefyd yn defnyddio’n gwasanaethau’n helaeth – y miloedd o gynghorwyr, gweithwyr cymorth, ymwelwyr gwirfoddol â’r cartref a swyddogion lles sy’n dod i gyswllt wyneb-yn-wyneb rheolaidd gyda phobl sydd ag anghenion ariannol. Os yw hyn yn disgrifio eich rôl chi, gweler Gwasanaethau Cyfryngol am fwy o wybodaeth.
Beth yw grantiau? Pa gymorth sydd ar gael? Pwy sy’n medru ceisio am help? Sut i geisio Help i geisio Tudalen chwilio am grantiau Dod o hyd i Gynghorydd Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Grantiau
Visit the Elizabeth Finn Care website