Log in / Register
You are here:
Mae cronfa ddata grantiau Turn2us yn cynnwys manylion ynglŷn â thua 3,500 o gronfeydd a weithredir gan elusennau sy’n rhoi grantiau i bobl sydd:
Mae pob elusen sy’n rhoi grantiau’n gweithio mewn ffordd unigol iawn ac mae’r mathau o gymorth y maen nhw’n eu rhoi hefyd yn unigol iawn. Er bod yr help ariannol y maen nhw’n ei rhoi yn cael ei rhoi trwy grantiau fel arfer, mae llawer ohonyn nhw hefyd yn rhoi cymorth ar ffurf cyngor a gwasanaethau.
Dyma enghreifftiau o’r help a allai fod ar gael i chi gan elusennau sy’n rhoi grantiau:
Fe fydd yr help sydd ar gael i chi yn dibynnu ar reolau pob mudiad, natur eich angen ariannol a’ch incwm presennol. Mae’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar wefan Turn2us, ar gyfer pob elusen sy’n rhoi grantiau, yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch rheolau cymhwyso a’r mathau o gymorth a roddir.
Os yw’r cymorth ariannol sydd ei angen arnoch yn fwy na’r hyn y mae elusen benodol sy’n rhoi grantiau yn ei rhoi, efallai y bydd yn cytuno i roi rhan o’r costau i chi. Efallai y byddwch yn medru cael y gweddill gan fudiad arall yr ydych yn gysylltiedig ag ef. Er enghraifft, os oes anabledd gennych ac rydych wedi gweithio mewn math penodol o swydd, efallai y byddwch yn medru cael help gan elusen anabledd berthnasol sy’n rhoi grantiau, yn ogystal ag elusen ar gyfer pobl sydd wedi gweithio yn eich swydd neu’ch diwydiant chi.
Mae llawer o elusennau sy’n rhoi grantiau hefyd yn helpu mewn argyfwng. Mae’r help yn medru bod ar ffurf grant neu fenthyciad (fel arfer, heb unrhyw log, ac i’w dalu yn ôl ar gyfradd y gallwch ei fforddio). Os ydych yn gymwys, fel arfer mae’r elusen sy’n rhoi’r grant yn medru trefnu’r math yma o help o fewn ychydig ddiwrnodau.
Bydd yr hyn sy’n cael ei ddiffinio fel argyfwng yn amrywio, ond mae’n medru cynnwys:
Os fyddwch chi angen help brys, defnyddiwch Turn2us i ddod o hyd i elusennau sy’n rhoi grantiau y mae gennych gysylltiad â nhw. Yna, fe allwch gysylltu â nhw i weld pa gymorth sydd ar gael ganddynt.
Os ydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau, efallai hefyd y bydd Benthyciad Argyfwng ar gael o’r Gronfa Gymdeithasol.
Beth yw grantiau? Pa gymorth sydd ar gael? Pwy sy’n medru ceisio am help? Sut i geisio Help i geisio Tudalen chwilio am grantiau Dod o hyd i Gynghorydd Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Grantiau
Visit the Elizabeth Finn Care website