Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Pwy all ymgeisio am gymorth elusen sy’n rhoi grantiau?

Fe fydd gan bob un o’r elusennau sy’n rhoi grantiau, sydd wedi ei rhestru ar wefan Turn2us, ei rheolau cymhwyso ei hun. Er bod yn rhaid i chi fod ag anghenion ariannol fel arfer, nid yw hyn yn golygu eich bod yn gorfod bod yn hollol anghenus. Bydd y rhan fwyaf o elusennau sy’n rhoi grantiau yn dilyn canllawiau’r Comisiwn Elusennau (dolen yn agor mewn ffenestr newydd) neu Office of the Scottish Charity Regulator's (dolen yn agor mewn ffenestr newydd) eich bod chi ag anghenion ariannol os nad oes gennych ‘fynediad at y pethau arferol mewn bywyd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol’, fel cartref digonol, gwres a dillad.

Mae’r rhesymau pam y mae pobl yn dioddef colled ariannol yn gymhleth.

Mae pwysedd mewn bywyd, fel colli rhywun, colli eich swydd, teulu’n chwalu, afiechyd, anabledd a gofalu am rywun, yn aml yn ffactorau amlwg, yn enwedig os yw’r newidiadau hyn yn golygu nad yw rhywun yn medru gweithio mwyach.

Mae’r cynnydd mewn costau byw, ac effeithiau sefyllfa economaidd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, hefyd yn cael effaith sylweddol ar gyllid personol, ac o ganlyniad mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Er y bydd llawer o bobl sy’n gymwys i gael grantiau yn cael budd-daliadau lles, nid oes rhaid eich bod yn eu cael cyn i chi fedru cael help gan elusennau sy’n rhoi grantiau. Ac nid oes rhaid i chi fod allan o waith. Mae elusennau sy’n rhoi grantiau hefyd yn helpu unigolion sydd ddim yn gymwys ar gyfer budd-daliadau lles neu sy’n gweithio, os ydynt angen help oherwydd newidiadau yn eu bywydau, fel colli swydd, colli rhywun agos, salwch, anabledd a’r teulu’n chwalu.

Mae elusennau sy’n rhoi grantiau wedi eu rhwymo’n gyfreithiol i sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau lles sydd ar gael i chi cyn iddynt fedru eich helpu. Fe fyddan nhw’n gofyn i chi wirio hyn os nad ydych yn siŵr Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio dolen Gwirio Budd-daliadau Turn2us.

Os ydych ar fudd-daliadau lles, ni fydd unrhyw grantiau a gewch gan elusen sy’n rhoi grantiau yn effeithio arnynt.

Os ydych yn cael help gan elusen sy’n rhoi grantiau ac angen cymorth pellach yn nes ymlaen, efallai y byddwch yn medru ceisio i’r un sefydliad fwy nag unwaith – mae’n dibynnu ar eu rheolau. Er enghraifft, os ydych yn gymwys ar gyfer grant rheolaidd gan sefydliad, efallai y bydd hefyd yn fodlon helpu gyda grant un taliad i brynu darn penodol o offer neu ddodrefn sydd ei angen arnoch. Ond, fe fydd y rhan fwyaf o elusennau sy’n rhoi grantiau, yn rhoi grant un taliad i unigolyn penodol unwaith y flwyddyn yn unig.

Os nad ydych yn siŵr os ydych yn gymwys i gael help gan elusen sy’n rhoi grantiau, defnyddiwch ddolen Chwilio am Grantiau Turn2us i ddod o hyd i unrhyw rai a allai fod yn medru eich helpu, ac anfonwch ymholiad atynt.


Beth yw grantiau?
Pa gymorth sydd ar gael?
Pwy sy’n medru ceisio am help?
Sut i geisio
Help i geisio
Tudalen chwilio am grantiau
Dod o hyd i Gynghorydd
Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Grantiau

Facebook Icon Twitter Icon YouTube Icon