Skip to navigation Skip to content

turn2us logoTurn2us - to access benefits & grants.

Search this site

You are here:

Sut i ymgeisio

Yn gyffredinol, mae elusennau sy’n rhoi grantiau yn dosbarthu’r grantiau y maen nhw’n eu rhoi trwy gronfa neu gronfeydd. Mae cronfa yn swm o arian sy’n cael ei neilltuo gan elusen sy’n rhoi grantiau, i’w rhoi at ddiben penodol i bobl sydd ag anghenion ariannol ac sy’n cwrdd â’r meini prawf ar gyfer cymhwyso. Er mai un gronfa yn unig sydd gan lawer o elusennau, mae rhai’n cynnig sawl cronfa sy’n rhoi arian at ddibenion gwahanol.

Mae cronfa ddata grantiau Turn2us yn cynnwys manylion 3,500 o gronfeydd sy’n rhoi grantiau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau sy’n rhoi grantiau. Mae hyn yn cynnwys pob elusen sydd wedi’i chofrestru’n gyhoeddus sy’n rhoi o leiaf £500 y flwyddyn i unigolion sydd:

  • Ag anghenion ariannol ac anghenion lles; a/neu
  • Angen help gyda’r costau sy’n gysylltiedig â chyrsiau addysg a hyfforddiant

Yn ogystal â gwybodaeth gyswllt ar gyfer pob elusen sy’n rhoi grantiau, mae ein cronfa ddata grantiau yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar bob cronfa:

  • Ei henw
  • Pwy mae’n eu helpu
  • Meini prawf ar gyfer cymhwyso
  • A yw unigolion a chanolwyr yn medru gwneud ymholiadau
  • A yw’r elusen sy’n rhoi grantiau yn derbyn ymholiadau ar-lein trwy’r wefan Turn2us

Mewn llawer o achosion, rydych yn medru gwneud ymholiadau a cheisio’n uniongyrchol i’r cronfeydd sydd wedi eu rhestru, gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein Turn2us.


Beth yw grantiau?
Pa gymorth sydd ar gael?
Pwy sy’n medru ceisio am help?
Sut i geisio
Help i geisio
Tudalen chwilio am grantiau
Dod o hyd i Gynghorydd
Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Grantiau

Facebook Icon Twitter Icon YouTube Icon